Mae Crys16 wrth eu bodd yn bod Macs Page o’r Scarlets wedi ei ddewis yng ngharfan dynion Cymru ar gyfer taith yr haf hwn i Japan.
Eleni mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn noddi Macs, sydd wedi cyffroi cefnogwyr gyda perfformiadau rhagorol, gan gynnwys cais unigol syfrdanol yn erbyn Zebre.
Wrth siarad am ei alwad i’r garfan, dywedodd Macs: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o gael fy newis ar gyfer carfan Cymru i Japan yr haf hwn. Mae llawer o fechgyn y Scarlets yn y garfan ac mae’n adlewyrchu’r gwaith caled sy’n digwydd yma i wthio ymlaen fel grŵp – felly mae’n dda gweld hynny’n gweithio.
“Mae’r tymor hwn wedi bod yn enfawr i mi ac rwy’n ddiolchgar am yr holl gyfleoedd sydd wedi dod i’m ffordd. Rwy’n mwynhau fy amser yn y Scarlets yn fawr – rydym yn grŵp cryf a chlos o chwaraewyr.
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae Crys16 – Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Scarlets wedi’i rhoi i mi eleni. Mae eu cefnogaeth yn y Parc ac yn ein gemau oddi cartref wedi bod yn anhygoel.
“Mae gennym ni ychydig o wythnosau mawr o’n blaenau nawr fel tîm ond ar ôl hynny alla i ddim aros i fynd i mewn i wersyll Cymru a pharhau i ddysgu a gwella fy ngêm a gobeithio y gallwn ni wneud argraff yn Japan.”
Hoffai pawb yn Crys16 estyn eu llongyfarchiadau cynhesaf i Macs am cael ei ddewis ar gyfer y daith.
0 Comments