Fe gafodd Iwan, cefnogwr gydol oes y Scarlets ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, ei ethol i’r bwrdd yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) ar ddechrau mis Gorffennaf. Dywedodd Iwan ei fod yn gyffrous i ddod â’i wybodaeth broffesiynol ac angerdd dros dîm y Scarlets i’r bwrdd.

Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr cwmni peirianneg strwythurol yn Llanelli, mae Iwan wedi gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bryn a Llangennech dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol y Bryn.

Teithiodd Iwan i Dde Affrica gyda nifer o’n haelodau ar ddiwedd tymor y Bencampwriaeth URC.

“Rwy’n deall yn iawn beth mae’r tîm yn ei olygu i’r gymuned, ac rwy’n credu bod Crys16 yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw’r berthynas honno’n gryf,” meddai Iwan.
“Rwy’n croesawu’r cyfle i roi’n ôl i glwb a chymuned sydd wedi rhoi cymaint i mi.”

Cyhoeddwyd hefyd bod Sarah Greener a Jonathan Armstrong wedi’i hail-ethol i’r bwrdd am dymor o ddwy flynedd, ac y cafodd Owain Davies ei ethol am dymor newydd.