Derbyniodd cefnogwyr RC Vannes groeso cynnes tair-ieithog i Barc y Scarlets gan Gadeirydd Crys16 Barrie Jones yn ystod eu hymweliad diweddar ar gyfer y gêm yng Nghwpan Her EPCR.

Daeth y tîm Llydaweg – a alwodd y gêm yn “Gêm Ddarbi Geltaidd” – â grŵp swnllyd o gefnogwyr i Lanelli ar gyfer y gêm, gyda llawer o’u cefnogwyr yn rhannu lluniau o dirnodau lleol ar gyfryngau cymdeithasol wrth iddynt wneud eu siwrnai i’r Parc.

Gyda’u hunig gêm oddi cartref arall yn eu tymor cyntaf yn Ewrop yn erbyn Black Lion yn Georgia, roedd eu gêm yn erbyn y Scarlets yn gerrig milltir yn hanes y clwb, ac un hanesyddol i’w cefnogwyr.

“Roeddwn wedi rhyfeddu at nifer ac agwedd y cefnogwyr o Vannes,” meddai Jones a chroesawydd y Llydäwyr yn y Bar Tanner Banc cyn y gêm.

“Roeddent yn wych, cyn ac ar ôl y gêm. Criw gwych o gefnogwyr a phob gwerth yn y bar wedi’r gêm hefyd!”

Roedd cefnogwr RC Vannes Quentin Haas yn falch iddo wneud y daith: “Cawsom brofiad gwych yn Llanelli. Daeth pedwar ohonom i weld y gêm. Roeddem yn gallu sgwrsio gyda chefnogwyr y Scarlets cyn ac ar ôl y gêm yn y bar, ac roedd pawb yn gyfeillgar iawn. Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i glywed rhywfaint o ganu Cymraeg! Taith wych er gwaethaf y golled! Rydym yn gobeithio gallwn groeso cefnogwyr y Scarlets i Vannes!”

Categories: CymraegNews