Wedi’i ychwanegu at fwrdd Crys16 cyn tymor 2024/25, o Lundain, mae gan Charlie Evans angerdd aruthrol tuag at y Scarlets a dyna wnaeth ei ysgogi i ymuno â’r bwrdd. Eisteddom i lawr gydag aelod bwrdd diweddaraf Crys16 i ddod ei adnabod ychydig yn well…
Beth oedd eich gêm gyntaf i’r Scarlets?
Charlie Evans: “Llanelli v Llandybie oedd hi yn Gwpan Swalec. Rhaid taw 1993 oedd e, neu 1994 efallai? Roeddwn yn ifanc iawn ar y pryd ond rwy’n cofio fi a fy nghefndryd i gyd yn mynd i lawr. Roedd pawb yn y pentref yno yn hongian o byst ac ati i wylio’r gêm. Rwy’n cofio cyfarfod â Garan Evans a Rupert Moon ar ôl y gêm ac roeddwn wedi gwirioni o hynny ymlaen”.
Pwy yw eich hoff chwaraewr erioed i’r Scarlets?
CE: “Waw, mae hwnnw’n gwestiwn anodd iawn! Mae’n debyg y byddwn i’n dweud Dafydd James gyda Matthew J Watkins yn agos ar ei hôl hi. Roeddwn yn hoff iawn o Salesi Finau a Martyn Madden hefyd.”
Beth yw eich swydd bob dydd?
CE: “Rwy’n gweithio i gwmni o’r enw Keith Prowse, lle rwy’n arwain ar brofiadau marchnata lletygarwch ar ddiwrnod gêm yn Stadiwm Allianz (Twickenham gynt). Mae’n waith hynod ddiddorol ac rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y gamp rwy’n ymddiddori ynddo cymaint.”
Beth yw eich rôl ar Fwrdd Crys16?
CE: “Fi yw’r cynrychiolydd marchnata ar y bwrdd, felly rwy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr i helpu i godi proffil Crys16 a chynyddu ei aelodaeth – rwy’n gobeithio bod pawb yn mwynhau’r cylchlythyr misol newydd a ddechreuwyd gennym y llynedd. Dydw i ddim yn mynychu’r Parc mor aml ag y dymunaf ond pan fyddaf yn gwneud rwy’n ceisio siarad â chymaint o gefnogwyr â phosibl i gael eu barn, ac ar-lein hefyd (gallwch ddod o hyd i mi ar X fel @iamcharlieevans).
Rydw i hefyd mewn deialog cyson gyda thîm marchnata’r Scarlets, lle rwy’n defnyddio fy mhrofiad proffesiynol i geisio helpu i gefnogi eu gweithgareddau ac ennyn diddordeb ein cefnogwyr.”
Beth yw dy hoff beth am fod yn gefnogwr y Scarlets?
CE: “Pan ydych chi yn y Parc, o dan y goleuadau ac rydych chi’n gweld y bêl yn cael ei lledu’n berffaith yn llydan trwy’r dwylo, rydych chi’n dechrau clywed y cyffro a’r disgwyliadau o’r cefnogwyr yn mynd yn uwch ac yn uwch – mae hynny’n wirioneddol, arbennig iawn”.