Mae Crys16 yn falch iawn o gyhoeddi ei noddiant o’r canolwr talentog, Macs Page, ar gyfer tymor 2024/25.

Mae’r chwaraewr o Abergwaun a Chrymych wedi gwneud argraff y tymor hwn gyda pherfformiadau da a cais trawiadol yn erbyn Benetton, yn erbyn Caerdydd, ac un campus yn erbyn Zebre.

Arweiniodd y berfformiadau yma at alwad i ymuno â charfan dynion Cymru yn ystod Cyfres yr Hydref 2024.

Dywedodd Macs Page: “Diolch enfawr i Crys am fy noddi’r tymor hwn. Mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych, gartref ac oddi cartref, yn wythnosau agoriadol yr URC. Rwy’n gobeithio gallwn barhau i’w gwobrwyo gyda pherfformiadau buddugol.”

Dywedodd Jon Daniels, Cyfarwyddwr Rheoli’r Scarlets: “Mae cefnogaeth ein cefnogwyr a Crys16 ar ac oddi ar y maes yn golygu llawer iawn i ni. Rydym yn falch o’n gallu i gynhyrchu talent ifanc cartref, ac mae Macs yn enghraifft o chwaraewr a ddechreuodd yn y rhanbarth, aeth drwy ein hacademi, ac sydd bellach yn ffynnu yn y garfan uwch.”

Categories: CymraegNews