Ar y bedwerydd o Dachwedd, gyda chefnogaeth y Scarlets, cynhaliodd Crys16 noson Cwrdd a’r Chwaraewyr Newydd ym Mharc y Scarlets. Roedd y noson yn gyfle i aelodau cynnig croeso cynnes i ein Sgarletiaid newydd.

Bu’r gynulleidfa’n wrth eu boddau wrth i’r bachwr newydd o Dde Affrica, Marnus van der Merwe, roi tiwtorial i ein cyflwynydd, Mr. Daniel Vaughan (Felinfoel), ar sut i ynganu ei enw llawn.

Ar ôl llai na 72 awr yng Nghymru, mynegodd y prop newydd o Awstralia, Archer Holz, ei ddiolchgarwch i’r rhai a oedd wedi ymgynnull am y croeso cynnes y mae wedi’i dderbyn ers iddo gyrraedd y clwb, gyda nifer o bobl yn ei stopio ar y stryd i’w ddymuno’n dda ar gyfer y tymor.

Rhannodd y cefnwr ifanc Ellis Mee, diweddar o’r clwb Nottingham yn Adran Bencampwriaeth Lloegr, ei stori a sut mae’n llwyddo i gyfuno ei astudiaethau â’i yrfa rygbi gyda’r Scarlets.

Rhoddodd Max Douglas, a Jarrod Taylor eu sylwadau ar yr URC a sut y mae’n cymharu â chystadlaethau eraill y maent wedi chwarae ynddynt yn Awstralia a De Affrica, yn ogystal â’r teyrngarwch a brofasant yn y gemau darbi yn erbyn Caerdydd yn ddiweddar.

Roedd Macs Page, a noddir gan Crys16, hefyd yn bresennol, ac yn ogystal â thrafod y chwip o gais sogriodd ef yn erbyn Zebre, datgelodd hefyd ei fod yn ddrymiwr or fri, ac eisoes yn flaenwr i academi Dinas Abertawe – colled i’r Elyrch ond yn sicr yn elw i’r Scarlets!

“Roedd yn wych rhoi cyfle i’n haelodau groesawu’r chwaraewyr newydd i’r clwb,” meddai Rhys Morgan, aelod o fwrdd Crys16.

“Mae’r digwyddiad Noson Groeso bob amser yn gyfle gwych i’n haelodau ymgysylltu’n uniongyrchol â’r chwaraewyr. Rwy’n siŵr y byddant i gyd yn gwneud cyfraniadau mawr i’r clwb ar gyfer gweddill y tymor a thu hwnt.”

Mae Crys16 yn ddiolchgar i bawb o’r Scarlets a wnaeth cyfrannu at drefnu’r noson.