Critical Friend

“A critical friend” – the words that I have appreciated as an effective description for the unique relationship that Crys16 enjoys with the Scarlets. Whilst I have been unable to establish the provenance of that description, it’s one I believe to be more apt than ever during the turbulent and challenging landscape of COVID-19.

For those of you who are unaware, Crys16 is a Supporters’ Trust which represents the interests of our membership and supporters more generally. We have now been active for well over a decade, having been established in a Cardiff flat by a group of like-minded supporters, who wanted to provide an independent voice for the club’s fans. These roots are what inspired me to get involved with Crys16’s board back in 2013 and more recently last year.

Thanks to the unprecedented cooperation of the Scarlets, Crys16 has developed its identity and role in the years that have passed, to the point where we are now privileged to sit on the board as a non-voting supporter representative. This role has been performed admirably by board member Neil Bathgate, who has written eloquently and entertainingly about the nerves he had as he took up this role; but also about the great warmth and support he received from his fellow board members.

This development was unique in the world of rugby union and reaffirmed the importance of Crys16 as an independent body who can play the role of the “critical friend”. Crys16, unlike many other supporters’ organisations, is wholly independent of the club. Whilst we enjoy a fantastic relationship with the club, this independence, in my view, is the key foundation of the organisation. Whilst we will always strive to work constructively with the club, it means that the real voice of our organisation is the people who back it – our members.

Independent supporter representation has played a key role in the preservation of a number of the major football clubs in Wales, with independent fan organisations saving Wrexham FC, Swansea City FC and Newport County AFC from the threat of financial ruin. Those organisations went on to help build clubs that reflected the ethos and values of their most important stakeholder – the supporters. 

Whilst in recent times the Scarlets have avoided lean times to that extent, the value of supporter representation in both cases is illustrative of what we as Crys16 represent to the future of the Scarlets. Those examples, whilst extreme, show the power of a united and strong fanbase, dedicated to supporting the clubs they love, whilst also challenging them to deliver more for their supporters, where appropriate. 

These Welsh examples are not anomalies. Five clubs in the English Football League now have some form of minority fan ownership, with Exeter City FC wholly owned by a Supporters’ Trust. Similarly, hugely successful football clubs on the continent also employ minority or majority fan ownership models, with the 50+1 rule in the German Bundesliga effectively mandating that supporters have a majority say in the running of their club. Examples of fan-owned teams are not only confined to football. There are examples in the NRL and the NFL, with the storied Green Bay Packers franchise perhaps the most famous fan-owned sports team in the world.

Crys16 members are extremely fortunate to support a club that is enlightened on this topic. For many fanbases, the fight for fan representation is exactly that – a fight. We must never take the club’s cooperation for granted as it is obvious through their conduct that they appreciate the benefits of independent fan representation, as opposed to being fearful of the challenges posed by it. That speaks to the confidence they have in their stewardship of the club; a confidence that’s been well-earned over the last few years.

As we look to the future and at the possibility of returning to Parc y Scarlets to properly support our players again, the Trust’s role will become ever more important. The future of watching rugby is likely to continue to evolve and change, with rugby increasingly looking to markets further afield to keep coffers full. In some cases, increased globalisation and innovation can mean the marginalisation of local fans, which has been acutely felt in the world of football. It will be Crys16’s role to represent our members to ensure that this will never the case with the Scarlets.

The Scarlets still face major challenges that will take a huge amount of cooperation to resolve. I am confident that the club will meet these challenges head on – and they will always have their “critical friend”, Crys16, to support them. I am proud to be playing a very small role in the Trust’s story in my current role as Chairman, but I know the true strength of Crys16 is in our membership. Long may that continue, as we develop into a more representative, innovative and powerful independent voice for our supporters.

Ymlaen! 

By Owain Davies (Chairman)

Cyfaill beirniadol

“Cyfaill beirniadol” – y geiriau rwyf wedi’u gwerthfawrogi fel disgrifiad effeithiol ar gyfer y berthynas unigryw sydd gan Crys16 â’r Scarlets. Er nad ydw i wedi gallu sefydlu tarddiad y disgrifiad hwnnw, credaf ei fod yn fwy addas nag erioed yn ystod tirwedd heriol a chynhyrfus COVID-19.

I’r rhai ohonoch nad ydych yn ymwybodol, Ymddiriedolaeth Cefnogwyr yw Crys16 sy’n cynrychioli buddiannau ein haelodaeth a’n cefnogwyr yn fwy cyffredinol. Erbyn hyn, rydym wedi bod yn weithredol ers mwy na degawd ar ôl cael ein sefydlu mewn fflat yng Nghaerdydd gan gefnogwyr o’r un fryd, a oedd eisiau rhoi llais annibynnol i gefnogwyr y clwb. Y gwreiddiau hyn a’m hysbrydolodd i fod yn rhan o fwrdd Crys16 yn ôl yn 2013 ac yn fwy diweddar y llynedd. 

Diolch i gydweithrediad digynsail y Scarlets, mae Crys16 wedi datblygu ei hunaniaeth a’i rôl dros y blynyddoedd diwethaf, i’r pwynt erbyn hyn lle rydym yn ffodus i eistedd ar y bwrdd fel cynrychiolydd cefnogwyr heb bleidlais. Perfformir y rôl hon yn rhagorol gan yr aelod o’r bwrdd Neil Bathgate, sydd wedi ysgrifennu’n huawdl ac yn ddifyr am y nerfau a oedd ganddo wrth iddo ymgymryd â’r rôl hon; ond hefyd am y cynhesrwydd a’r cryn gefnogaeth a gafodd gan ei gyd-aelodau ar y bwrdd.

Roedd y datblygiad hwn yn unigryw ym myd rygbi’r undeb ac ailddatganodd bwysigrwydd Crys16 fel corff annibynnol sy’n gallu chwarae rôl y “cyfaill beirniadol”. Mae Crys16, yn wahanol i lawer o sefydliadau cefnogwyr eraill, yn gwbl annibynnol o’r clwb. Er ein bod yn mwynhau perthynas wych gyda’r clwb, yr annibyniaeth hon, yn fy marn i, yw sylfaen allweddol y sefydliad. Er y byddwn bob amser yn ymdrechu i weithio’n adeiladol gyda’r clwb, mae’n golygu mai llais go iawn ein sefydliad yw’r bobl sy’n ei gefnogi – ein haelodau.

Mae cynrychiolaeth cefnogwyr annibynnol wedi chwarae rhan allweddol wrth warchod nifer glybiau mawr pêl-droed Cymru, gyda sefydliadau cefnogwyr annibynnol yn arbed Clwb Pêl-droed Wrecsam, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac AFC Sir Casnewydd rhag bygythiad mynd i’r wal. Aeth y sefydliadau hynny ymlaen i helpu i adeiladu clybiau a oedd yn adlewyrchu ethos a gwerthoedd eu rhanddeiliaid pwysicaf – y cefnogwyr.

Er bod y Scarlets yn ddiweddar wedi osgoi amseroedd main i’r graddau hynny, mae gwerth cynrychiolaeth cefnogwyr yn y ddau achos yn dangos yr hyn yr ydym ni fel Crys16 yn ei gynrychioli i ddyfodol y Scarlets. Mae’r enghreifftiau hynny, er eu bod yn eithafol, yn dangos pŵer sylfaen cefnogwyr unedig a chryf, sy’n ymroddedig i gefnogi’r clybiau maen nhw’n eu caru yn ogystal â’u herio i ddarparu mwy i’w cefnogwyr, lle bo hynny’n briodol.

Nid anghysondebau yw’r enghreifftiau hyn o Gymru. Bellach mae gan bum clwb yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr ryw fath o berchnogaeth cefnogwyr lleiafrifol, gyda Exeter City FC yn eiddo llwyr i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr. Yn yr un modd, mae clybiau pêl-droed hynod lwyddiannus ar y cyfandir hefyd yn cyflogi modelau perchnogaeth cefnogwyr lleiafrifol neu fwyafrifol, gyda’r rheol 50+1 yn Bundesliga yr Almaen yn gorfodi, i bob pwrpas, fod gan gefnogwyr llais mwyafrifol wrth redeg eu clwb. Nid yw’r enghreifftiau o dimau sy’n eiddo i gefnogwyr wedi’u cyfyngu i bêl-droed yn unig. Ceir enghreifftiau yn yr NRL a’r NFL, gyda hanes masnachfraint Green Bay Packers efallai’r tîm chwaraeon enwocaf yn y byd sy’n eiddo i gefnogwyr.

Mae aelodau Crys16 yn hynod ffodus i gefnogi clwb sy’n oleuedig ar y pwnc hwn. I lawer o gefnogwyr, y frwydr am gynrychiolaeth cefnogwyr yn union yw hynny – ymladd. Rhaid inni beidio byth â chymryd cydweithrediad y clwb yn ganiataol gan ei bod yn amlwg trwy eu hymddygiad eu bod yn gwerthfawrogi buddion cynrychiolaeth cefnogwyr annibynnol, yn hytrach nag ofni’r heriau a ddaw yn ei sgil. Mae hynny o ganlyniad i’r hyder sydd ganddyn nhw yn eu stiwardiaeth o’r clwb; hyder haeddiannol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Wrth i ni edrych i’r dyfodol ac at y posibilrwydd o ddychwelyd i Barc y Scarlets i gefnogi ein chwaraewyr yn iawn eto, bydd rôl yr Ymddiriedolaeth yn dod yn bwysicach fyth. Mae dyfodol gwylio rygbi yn debygol o barhau i esblygu a newid, gyda rygbi yn edrych fwyfwy at farchnadoedd ymhellach i ffwrdd i gadw coffrau’n llawn. Mewn rhai achosion, gall globaleiddio ac arloesi cynyddol olygu ymyleiddio cefnogwyr lleol, a welwyd yn enbyd ym myd pêl-droed. Rôl Crys16 fydd cynrychioli ein haelodau i sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd gyda’r Scarlets.

Mae’r Scarlets yn wynebu heriau mawr o hyd a fydd yn cymryd cryn dipyn o gydweithio i’w datrys. Rwy’n hyderus y bydd y clwb yn wynebu’r heriau hyn yn uniongyrchol – ac y bydd ganddyn nhw bob amser eu “cyfaill beirniadol”, Crys16, i’w cefnogi. Rwy’n falch fy mod yn chwarae rhan fach iawn yn stori’r Ymddiriedolaeth yn fy rôl bresennol fel Cadeirydd, ond gwn fod gwir gryfder Crys16 yn ein haelodaeth. Hir y bydd hynny’n parhau, wrth inni ddatblygu i fod yn llais annibynnol mwy cynrychioliadol, arloesol a phwerus i’n cefnogwyr.

Ymlaen! 

Gan Owain Davies (Cadeirydd)

Categories: Uncategorized

0 Comments

Leave a Reply

Avatar placeholder

Your email address will not be published. Required fields are marked *