Owain Davies – Cadeirydd | Chair

I am originally from Llanedi, near Pontarddulais. and now live in Canton in Cardiff. I was educated at Ysgol Gyfun y Strade in Llanelli, before going on to Cardiff University to study Law. I am currently employed as a Senior Researcher at the Senedd, having previously worked as a solicitor in Swansea and Cardiff.

I have supported the Scarlets since childhood and I am pleased to be able to give something back to the club in my new role as Chairman of Crys16. My favourite Scarlets player of all-time is Dafydd James, closely followed by Stephen Jones and Dwayne Peel, of course!

Rwy’n dod o Lanedi, ger Pontarddulais, yn wreiddiol ac rwy bellach yn byw yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Cefais fy addysg yn Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli, cyn symud i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Uwch Ymchwilydd yn y Senedd, wedi cyfnod yn gweithio fel Cyfreithiwr yn Abertawe a Chaerdydd. 

Rwyf wedi cefnogi’r Scarlets ers fy mhlentyndod ac rwy’n falch cael y cyfle i gyfrannu at y clwb yn fy rôl newydd fel Cadeirydd Crys16. Fy hoff chwaraewr yw Dafydd James, er mae Stephen Jones a Dwayne Peel yn ei ddilyn yn agos! 

Ian Lewis – Vice Chair

I have been a supporter for over 50 years having been taken to my first game by my dad when I was 4 years old. Over the years my heroes have ranged from Roy Mathias, JJ, Ieuan Evans to Rhys Patchell in the modern era.

In the real world I am a teaching assistant at Ysgol Gymraeg Dewi Sant, who over the years have produced great Scarlets such as Alun Davies and Phil John.

Rwy’ wedi bod yn gefnogwr ers dros 50 mlynedd ar ôl mynychu fy gêm gyntaf gyda fy nhad pan oeddwn i’n 4 mlwydd oed. Dwi wedi edmygu nifer o chwaraewyr dros y blynyddoedd gan gynnwys Roy Mathias, JJ, Ieuan Evans a Rhys Patchell yn fwy diweddar.

Yn y byd go iawn, dwi’n gynorthwy-ydd dysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr Scarlets dros y blynyddoedd megis Alun Davies a Phil John.

Gareth Storey – Secretary

I’m very excited to have joined the Crys 16 Board this season and look forward to contributing to the trust and representing members over the coming months and years, keeping Crys at the forefront of supporter representation within Welsh Rugby.

I was born and raised in Minehead, Somerset but moved to Cardiff for university. Despite these roots my heart has always been in West Wales with many of my family having lived in Pembrokeshire since before I was born. Spending many a childhood Christmas in West Wales is where my love of the Scarlets emanated from and watching the boxing day derby has always been a tradition.

After graduating from UWIC (Now Cardiff Met) and seeing the Scarlets move to Parc Y Scarlets I bought my first season ticket in 2009 and haven’t looked back since. Now a regular attendee of away trips across Europe since my first bus trip to Sale in 2012 and first French trip to Brive later that year.

In my professional life I am now back at Cardiff Met University, working as a Project Manager after working previously in the NHS and for British Rowing. My other sporting involvements sees me play Cricket for Dinas Powys CC and I have previously been a Rowing coach at Cardiff University and more recently the Welsh Team Manager.

My love for the club has seen me take in some memorable games in Clermont, Paris, Bath and Toulon amongst others but the back to back games in Dublin during the 2017/18 season will live long in the memory. That and the unrivalled atmosphere at home games Vs Toulon and La Rochelle the following season, hopefully more of those days to come soon. I look forward to seeing you all back at PYS soon!

Dwi’n gyffrous iawn o fod wedi ymuno â Bwrdd Crys 16 eleni a dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu i waith yr ymddiriedolaeth a chynrychioli cefnogwyr dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, wrth sicrhau bod Crys 16 ar flaen y gâd yn nhermau cynrychiolaeth cefnogwyr o fewn rygbi Cymru.

Fe’m ganwyd ym Minehead, Gwlad yr Haf cyn symud i fynychu’r Brifysgol yng Nghaerdydd. Serch hynny, mae nifer o aelodau fy nheulu wedi byw yn Sir Benfro ers cyn i mi gael fy ngeni. Treuliais sawl Nadolig yng ngorllewin Cymru pan oeddwn yn blentyn a dyna lle ddatblygodd fy nghariad at y Scarlets ac roedd gwylio’r darbi ar Ddiwrnod San Steffan wastad yn draddodiad.

Wedi i mi raddio o UWIC (Met Caerdydd erbyn hyn) ac ar ôl i’r Scarlets symud i Barc Y Scarlets, prynais docyn tymor am y tro cyntaf yn 2009. Erbyn hyn, dwi’n mynychu gemau ar draws Ewrop yn rheolaidd ar ôl fy nhaith cyntaf yn 2012 i Sale a fy nhaith cyntaf i Ffrainc i’r gêm yn erbyn Brive yn yr un flwyddyn.

Yn fy mywyd proffesiynol, dwi bellach yn ôl ym Met Caerdydd yn gweithio fel Rheolwr Prosiect ar ôl gweithio i’r GIG ac i British Rowing. Dwi’n chwarae criced i Glwb Criced Dinas Powys ac wedi bod yn hyfforddwr rhwyfo Prifysgol Caerdydd a’n Rheolwr Tîm Cymru yn fwy diweddar.

Dwi wedi teithio i nifer o gemau cofiadwy gan gynnwys i Clermont, Paris, Caerfaddon a Toulon ymysg eraill, ond bydd y 2 gêm ar ddiwedd 2017/18 yn Nulyn yn byw’n hir yn y cof. Ymysg yr uchafbwyntiau eraill oedd profi’r awyrgylch anhygoel yn erbyn Toulon a La Rochelle ym Mharc Y Scarlets yn 2018/19 a gobeithio bydd mwy o’r dyddiau yma i ddod cyn hir. Edrych ymlaen at weld pawb yn ôl yn PYS cyn hir.

Robbie Mazzeo – Treasurer

I’m thrilled to have joined the Crys16 Board this year and I’m hopeful I can be an asset to the Trust, particularly in the strange times we find ourselves in.  I’m a Chartered Accountant with 10 years’ experience in financial services in a variety of roles across audit, financial accounting, budgeting and forecasting, and transformation.  As Treasurer this year, I will use these skills to support the Board in their aim to make best possible use of the members’ funds – hopefully through events in person again in the near future.

My lifelong love affair with the Scarlets was sealed at a young age – I think it was about 30 seconds after kick off of my first match at Stradey that I was begging my mam to buy me a season ticket.  I have been witness to some great teams and glorious attacking rugby over the years, combined with many hours at Stradey of gorging on Dinky Donuts and then regretting it immediately while running around on the pitch post match…

My favourite match is a toss-up between the Heineken Cup win over Wasps in 2005, and the Pro12 final against Munster in 2017.  Despite the fun I had standing on the Pwll end as we tore into Lawrence Dallaglio for the whole game, the first 30 minutes of that match in Dublin were something else.  I’ve not had much to shout about in my subsequent visits to the Aviva, so that makes it particularly special!

My favourite player has to be Regan King, a magician of the game.  Such a shame about that 1 pesky All Black cap!

Dwi wrth fy modd o fod wedi ymuno â Bwrdd Crys 16 eleni a gobeithio y gallaf gynnig llawer i’r Ymddiriedolaeth, yn enwedig yn y cyfnod sydd ohoni. Dwi’n Gyfrifydd Siartredig sydd â 10 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau cyllid mewn nifer o rolau, gan gynnwys awdit, cyfrifo ariannol, cyllido a darogan, a thrawsffurfiad. Fel Trysorydd y Bwrdd eleni, fe fyddai’n defnyddio’r sgiliau yma i gefnogi’r Bwrdd i wneud y defnydd gorau o gyllid yr aelodau – gobeithio trwy ddigwyddiadau mewn person rhywbryd cyn hir.

Dechreuodd fy nghariad at y Scarlets pan oeddwn yn ifanc – Tua 30 eiliad ar ôl y cic gyntaf yn fy ngêm gyntaf ar y Strade, roeddwn i’n gofyn i mam i brynu tocyn tymor i mi. Dwi wedi gwylio sawl tîm arbennig a rygbi ymosodol anhygoel dros y blynyddoedd, ac wedi treulio oriau lu yn bwyta Dinky Donuts yn Strade cyn difaru wrth rhedeg o gwmpas y ca ear ôl y gêm…

Y gemau sy’n aros yn y co’ fwyaf ydy’r fuddugoliaeth dros Wasps yn 2005 a rownd derfynol y Pro12 yn erbyn Munster yn 2017. Er pa mor dda oedd sefyll ar y Pwll End wrth i ni ddysgu gwers i Lawrence Dallaglio am 80 munud, roedd yr hanner awr cyntaf yn Nulyn yn rhywbeth arall. Prin oedd y llwyddiant yn yr Aviva yn y gemau dwi wedi mynychu yno ers hynny sy’n gwneud y gêm yma hyd yn oed yn fwy arbennig!

Fy hoff chwaraewr yw Regan King, mae e’n athrylith. Trueni am yr un cap yna i Seland Newydd!

Neil Bathgate – Scarlets Board Representative

I’ve been a Scarlets season ticket holder since joining Llanelli juniors a few years before the 92/93 treble season, and whether it’s been playing or watching Stradey Park was very much my rugby home for nearly 2 decades. 

I joined the Crys16 board a couple of years after we moved to Parc y Scarlets and recently had the honour of being the first board member to be appointed to represent supporters on the Scarlets board which has been a hugely fulfilling experience. 

Career wise I had a brief stint as a journalist and have worked in various roles in the financial industry since then. I’ve always lived somewhere along the Pembrey to town corridor (don’t see why anyone would leave the Welsh Riviera) and I also do some coaching in junior rugby, occasionally having to pick up the whistle. 

My favourite Scarlets moments on the pitch are probably the Pro12 final, Heineken Cup quarter final against Bath and league winning match against Pontypridd in 93, they all stand out because winning so comfortably in such big games means you can really enjoy the occasions without the usual stresses of big games. 

Away from the pitch it’s a cliché but our fans are brilliant, I vividly remember the away trips in the 90’s across Wales which turned into away trips across Europe towards the end of the decade and beyond and the thing that jumps out is how well our supporters look out for each other, the old guard take the youngsters and newcomers under their wing and the diversity of the travelling support is a reflection on how the entire club drives in the same direction regardless of age or background. 

Part of that connectedness also comes from the interaction with players and staff which often adds to those great occasions, whether it’s the likes of Phil Davies, Lawrence Delaney, Mark Perego and Emyr Lewis turning up to a presentation evening as a junior, chatting with people like Chris Wyatt in Le Caprice or the social club or hearing former Chairman Huw Evans talk about what the Scarlets means to him in Dublin I think that it’s vital that the club and Crys16 keep that interaction going. 

Ers ymuno â thîmau iau Llanelli ychydig cyn y tymor triphlyg yn 92/93, rwyf wedi bod yn ddeiliwr tocyn tymor a bu Parc Y Strade yn “gartref rygbi” i mi wrth chwarae a gwylio yno am bron i 2 ddegawd.

Ymunais â Crys 16 rhai blynyddoedd ar ôl symud i Barc Y Scarlets ac yn ddiweddar, dwi wedi cael y fraint o gael fy ethol fel yr aelod bwrdd cyntaf i gynrychioli cefnogwyr ar Fwrdd y Scarlets. Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn.

Dechreuais fy ngyrfa fel newyddiadurwr cyn symud ymlaen yn gyflym i weithio yn y diwydiant gwasanaethau cyllid. Dwi wedi byw rhwng Llanelli a Phen-bre erioed (dwi ddim yn gweld pam fyddai unrhyw un eisiau gadael y Riviera Cymraeg) a dwi’n hyfforddi rygbi ieuenctid, gan ddyfarnu hefyd weithiau.

Fy hoff atgofion o’r Scarlets ar y cae ydy rownd terfynol y Pro12, Chwarteri Cwpan Ewrop yn erbyn Caerfaddon a maeddu Pontypridd i ennill y gynghrair yn 93. Mae’r rhain i gyd yn sefyll allan am fod ennill mor gyfforddus yn meddwl bod modd mwynhau’r gêm heb y straen arferol sy’n cydfynd â gêm fawr.

I ffwrdd o’r cae, mae’n cefnogwyr ni’n arbennig. Dwi’n cofio’r gemau i ffwrdd ar draws Cymru yn y 90au a drôdd yn deithiau ar draws Ewrop o’r 90au hwyr ymlaen. Y peth sy’n sefyll allan i fi ydy’r ffordd y mae’n cefnogwyr ni yn edrych allan am ei gilydd, y rhai ychydig yn hynach yn cymysgu’n dda gyda’r rhai ifanc a’r cefnogwyr newydd. Mae’r amrywiaeth ymysg ein cefnogwyr sy’n teithio yn adlewyrchiad o sut mae’n clwb yn tynnu i’r un cyfeiriad, beth bynnag yw’ch oed neu’ch cefndir.

Mae rhan o hyn yn ymwneud â’r profiadau y caiff cefnogwyr gyda’r chwaraewyr a’r staff sydd yn ychwanegu at yr achlysuron arbennig yma, o chwaraewyr fel Phil Davies, Lawrence Delaney, Mark Perego ac Emyr Lewis yn mynychu nosweithiau cyflwyno clybiau ieuenctid, i sgwrsio gyda Chris Wyatt yn Le Caprice neu yn y clwb cymdeithasol neu chlywed cyn-gadeirydd y Scarlets, Huw Evans yn siarad am beth mae bod yn Scarlet yn meddwl iddo yn Nulyn. Dwi’n meddwl ei fod yn hollbwysig i’r clwb ac i Crys 16 i barhau gyda’r rhyngweithio hyn.

Barrie Jones

I have been a Scarlets season ticket holder for over 30 years and was involved with the Trust from its very inception in the early days of 2006. I am proud to state that it’s “yma o hyd” for me too as a Board member and am very grateful for the support and faith that the membership have shown me all of these years. 

It has been fantastic to see how we have developed over time into this trusted organisation which has now gained a place on the Scarlets Board and is valued for the contribution it brings to it. 

Events over the last few months have really shown that supporters are the life-blood of sporting teams and, like you all, am so looking forward to getting back to Parc Y Scarlets again watching our team compete for honours.

My main are of responsibility within the trust is being involved in JSG Cymru, the organisation that represents the supporters’ groups from the 4 pro teams in Wales ensuring that Welsh rugby’s governance is aware of supporters’ concerns etc. 

Whilst following The Scarlets, I’ve been present at some great occassions and there’s 3 below which are among the stand-out games for me

Scarlets v Wasps, 2000 @ Stradey HC. 

Scarlets v Munster 2007 @ Stradey HC 1/4 Final.

Scarlets v Munster 2017 @ Aviva Stadium Pro12 Champions.

Rwyf wedi bod yn ddeiliwr tocyn tymor Scarlets ers dros 30 mlynedd ac roeddwn yn ymwneud â’r Ymddiriedolaeth o’r cychwyn cyntaf yn nyddiau cynnar 2006. Rwy’n falch o nodi ei bod yn “yma o hyd” i mi hefyd fel aelod o’r Bwrdd ac yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r ffydd y mae’r aelodaeth wedi’u dangos i mi yr holl flynyddoedd hyn.

Mae wedi bod yn wych gweld sut rydym wedi datblygu dros amser i fod yn sefydliad dibynadwy sydd bellach wedi ennill lle ar Fwrdd y Scarlets ac yn cael ei werthfawrogi am y cyfraniad a ddaw iddo.

Mae digwyddiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos mewn gwirionedd mai cefnogwyr yw gwaed bywyd timau chwaraeon ac, fel pob un ohonoch, rwyf yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Barc Y Scarlets eto i wylio ein tîm yn cystadlu am anrhydeddau.

Fy mhrif gyfrifoldebau o fewn yr ymddiriedolaeth yw cymryd rhan yn JSG Cymru, y sefydliad sy’n cynrychioli grwpiau cefnogwyr o’r 4 tîm pro yng Nghymru gan sicrhau bod llywodraethu rygbi Cymru yn ymwybodol o bryderon cefnogwyr ac ati.

Wrth ddilyn y Scarlets, rydw i wedi bod yn bresennol mewn rhai digwyddiadau gwych ac mae 3 isod sydd ymhlith y gemau sy’n sefyll allan i mi:

Scarlets v Picwns 2000 @ Parc y Strade, CH

Scarlets v Munster 2007 @ Parc y Strade, CH 1/4

Scarlets v Munster 2017 @ Stadiwm Aviva, Pencampwyr Pro 12.

Alun Jones

Alun Jones ydw i. Dwi’n dod o Gaerfyrddin ac wedi bod yn cefnogi’r Scarlets ers tua 20 mlynedd. Mae gen i docyn tymor yn eisteddle’r De (a’r Strade gynt), ond dwi’n mwynhau teithio i ffwrdd i lefydd ar draws Ewrop i wylio’r tîm hefyd. Dwi’n ffodus iawn o fod wedi gwylio gemau mewn amryw o lefydd, o Galashiels yn yr Alban i’r Riviera yn Ffrainc ac mewn sawl lle ar hyd y ffordd, gan gynnwys Clermont-Ferrand, Perpignan, Parma, Treviso, Paris a Limerick i enwi ‘mond rhai.

Ymunais â Bwrdd Crys 16 5 mlynedd yn ôl; yn wreiddiol fel aelod cyfetholedig i roi ychydig o gyngor ar system aelodaeth, gwefan, cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yr Ymddiriedolaeth. Wedi rhai misoedd o geisio datrys problemau gyda hen systemau, adeiladais wefan newydd i Crys 16, a gyda system rheoli aelodaeth newydd a model a strwythur aelodaeth newydd, tyfodd ein haelodaeth, o thua 100 o aelodau i dros 700. Fy mhrif rôl ar y Bwrdd erbyn hyn ydy gofalu am ein systemau, ac yn ddiweddar, dwi wedi ailwampio’r wefan unwaith eto ac wedi rhoi trefniadau mewn lle i ni ddechrau gwneud digwyddiadau fideo arlein yn ystod y pandemig.

Yn fy mywyd proffesiynol, mae gen i 5 mlynedd o brofiad yn gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfryngau Cymraeg. Dwi wedi gallu trosglwyddo nifer o’m sgiliau a’m mhrofiad i’r gwaith gyda Crys 16, gan gynnwys bod yn gallu cynnig adborth adeiladol ar ran y cefnogwyr i’r Scarlets ar amryw o faterion digidol.

Ymysg fy hoff atgofion yn gwylio’r Scarlets:

Mae cymaint o fomentau “I was there” gan gynnwys maeddu Munster yn Chwarteri Cwpan Ewrop ym Mharc Y Strade – Mawrth 2007, a’r ddwy gêm yn Nulyn ar y ffordd i ennill y Pro12 ddegawd yn ddiweddarach a La Rochelle ym Mharc Y Scarlets.

Dwi hefyd wedi mwynhau cael esgus i ymweld â llefydd anhygoel! Profiadau arbennig, bob un!

I’m Alun Jones. I’m from Carmarthen and have been supporting the Scarlets for about 20 years. I have a season ticket in the South Stand (and Stradey before that), but I also enjoy travelling around Europe watching the team as well. I’m fortunate enough to have taken in some great matches in places that range from a freezing cold Galashiels to a boiling hot French riviera and many in between such as Clermont, Perpignan, Parma, Treviso, Paris and Limerick to name but a few.

I joined the Crys 16 Board 5 years ago; originally as a co-opted member to provide some advice on the Trust’s website, membership system, communications and social media. After some months of problem solving with the old systems, I built Crys 16 a new website, and with a new membership system and membership model, Crys 16’s membership grew from about 100 members to over 700 members. My main role on the Board now is looking after our systems and I recently revamped the Trust’s website again. I also put in place the arrangements and systems to allow us to hold some events online during the pandemic.

In my professional life, I have 5 years’ experience working on social media in the Welsh media. I’ve been able to transfer my skills and experience to my work with Crys 16, including being able to offer feedback on behalf of supporters to the Scarlets on a range of digital issues.

Among my favourite memories watching the Scarlets:

There are so many “I was there” moments – Munster in the European Cup Quarter Finals in Stradey – March 2007, the back to back wins in Dublin on the way to winning the Pro12 a decade later, La Rochelle at Parc Y Scarlets and many others. I’ve also enjoyed having an excuse to visit some amazing places. All fantastic experiences!

Dorian Davies

Dorian is a former chair of Crys 16 and a long-standing member of the Board.

Mae Dorian yn gyn-gadeirydd ar Crys 16 ac yn aelod hir-dymor o’r Bwrdd.

Helen Davies

Helen (also more famously known as Helz Bach) joined the Board a couple of years ago and organised the very successful South African charity evening.

Daeth Helen yn aelod o’r Bwrdd rhai blynyddoedd yn ôl. Helen oedd yn gyfrifol am drefnu ein noson elusennol gyda thema De Affrica.

Categories: Crys 16 Board

0 Comments

Leave a Reply

Avatar placeholder

Your email address will not be published. Required fields are marked *